IPC: Arian i Duke
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro, Kyron Duke wedi ennill medal arian i Dîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaeth yr IPC yn Abertawe.
Fe lwyddodd yr athletwr 21 oed i daflu'r waywffon 36.7m yn ffeinal y gystadleuaeth F41.
Mathias Mester o'r Almaen aeth â'r fedal aur.
Hon yw'r fedal arian gyntaf i'r Cymry ymysg Tîm Prydain Fawr.
Ddoe, ar ddiwrnod cynta'r gemau, fe lwyddodd y Cymry i ychwanegu pedair medal efydd at gyfanswm y tîm.
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2014