Caerdydd yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Palace
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Caerdydd yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Crystal Palace wedi iddyn nhw dderbyn manylion am garfan Caerdydd cyn gêm rhwng y ddau dîm fis Ebrill.
Yr wythnos hon cafodd Palace ddirwy am eu bod wedi torri rheolau'r Uwchgynghrair.
Roedd Caerdydd wedi cwyno bod rheolwr Palace yn gwybod pwy oedd wedi eu dewis i chwarae i Gaerdydd cyn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Colli o dair gôl i ddim oedd hanes yr Adar Gleision ac fe alwodd y clwb am ddiystyru'r canlyniad.
Wedyn fe gafodd dau aelod o staff Caerdydd eu disgyblu.
'Hollol anwir'
Roedd Palace wedi gwadu'r honiadau yn eu herbyn gyda'r cyfarwyddwr chwaraeon, Iain Moody, yn dweud ei bod yn "gwbl, hollol anwir" ei fod yn rhan o unrhyw ddrwgweithredu.
Ond penderfynodd yr Uwchgynghrair fod Palace wedi torri rheol B16 sy'n dweud bod yn rhaid i glybiau ymddwyn tuag at ei gilydd gyda'r "gonestrwydd eithaf".
Nid oedd Caerdydd am wneud unrhyw sylw brynhawn Mercher.
Straeon perthnasol
- 18 Awst 2014
- 17 Ebrill 2014
- 15 Ebrill 2014
- 11 Ebrill 2014
- 11 Ebrill 2014