Merch chwech oed yn marw ar ei gwyliau
- Published
Mae merch chwech oed wedi marw wrth aros gyda'i theulu mewn cartref gwyliau yng Ngwynedd, y gred yw bod y ferch wedi tagu.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ferch wedi derbyn triniaeth gan barafeddygon a bod swyddog heddlu oddi ar ddyletswydd wedi rhoi 'CPR' iddi, cyn iddi gael ei chludo o Forfa Nefyn i'r ysbyty ym Mangor gan hofrennydd.
Nid yw'r ferch yn dod o'r ardal leol, ond does dim manylion wedi eu rhyddhau ynglŷn â'i chyfeiriad cartref.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lisa Surridge nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal a bydd Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, yn derbyn gwybodaeth am achos y farwolaeth.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty gan hofrennydd achub yr Awyrlu.