Damwain marchnad: Gwahardd dyn rhag gyrru
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 81 oed darodd yn erbyn stondinau ym marchnad Yr Wyddgrug, gan anafu 10 o bobl, wedi ei wahardd rhag gyrru.
Fe fydd rhaid i Norman Jones gymryd prawf gyrru arall i ad-ennill ei drwyedd.
Fe gyfaddefodd ei fod wedi gyrru'n ddiofal, gan ddweud mai dementia oedd y rheswm.
Yn ôl ei gyfreithiwr, Phillip Lloyd Jones, fydd Mr Jones byth yn ceisio eto am ei drwydded.
Fe gafodd ddirwy o £100 a bydd yn rhaid iddo dalu costau o £105.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ddechrau Rhagfyr 2013 pan darodd car Mr Jones yn erbyn stondinau'r farchnad, yn ogystal â phobl.
Cafodd 10 o bobl eu hanafu.
Yn eu mysg, roedd un dynes gafodd anafiadau difrifol i'w choes, fe dorodd dynes arall ei ffêr a thorodd un arall dair asen.
Fe ysgrifenodd Mr Jones at y llys i bledio'n euog, gan egluro ei fod yn dioddef o dementia ers 18 mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013