Medalau i'r Cymry yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Aled Sion Davies wedi cipio'r fedal aur am daflu'r pwysau ym Mhencampwriaeth IPC Ewrop yn Abertawe.
Fe daflodd 13.66m yn y gystadleuaeth F42 oedd ddigon da iddo sicrhau'r aur yn yr ail rownd, gan fynd un yn well nag yn Glasgow lle cafodd arian.
Fe lwyddodd Laura Sugar i ychwanegu medal efydd arall wrth iddi ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth 200m (T44), i ychwanegu at yr un roedd hi eisoes wedi ei gael yn y 100m.
A daeth ail fedal efydd i Jordan Howe hefyd yn y 200m (T35) ac yntau hefyd wedi ennill ei un gyntaf yn y 100m.
Daeth pedwaredd medal y dydd i'r Cymry wrth i Bradley Wigley hefyd ennill ei ail fedal efydd yr wythnos.
Wedi ei lwyddiant yn y 100m, daeth Wigley'n drydydd yn y 200m T38.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2014
- Cyhoeddwyd20 Awst 2014