Enwi'r ferch fu farw tra ar ei gwyliau
- Cyhoeddwyd

Cafodd Jasmine ei hedfan i'r ysbyty ond doedd dim modd achub ei bywyd
Mae'r ferch fach fu farw ar ei gwyliau ym Morfa Nefyn nos Fawrth wedi cael ei henwi.
Roedd Jasmine Lapsley yn chwe blwydd oed. Does dim manylion wedi eu cyhoeddi am ei chyfeiriad cartref.
Mae crwner gogledd Cymru Dewi Pritchard-Jones wedi dechrau ymchwiliad i'w marwolaeth.
Un ddamcaniaeth yw ei bod wedi tagu'n ddamweiniol.
Roedd parafeddygon ac aelod o'r heddlu oedd ddim ar ddyletswydd wedi ceisio ei hachub cyn iddi gael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lisa Surridge "nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus".
Mi gafodd ymchwiliad post mortem ei gynnal ddydd Iau yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2014