Malik 'wedi gwario arian i brynu cegin'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn bennaeth Awema wedi gwadu defnyddio cyllid yr elusen i dalu am gegin newydd o Ikea.
Mae Naz Malik, 65, wedi ei gyhuddo o ddefnyddio tua £15,000 o arian yr elusen ar gyfer lleiafrifoedd ethnig arno ef ei hun. Mae'n gwadu tri chyhuddiad o dwyll.
Mae peth o'r arian mae wedi ei gyhuddo o ddwyn yn deillio o ddwy siec - oedd wedi eu llofnodi o flaen llaw - gwerth tua £12,000.
Cafodd y gyntaf, gwerth £2,500 ei gwneud ym mis Mawrth 2010 ac mae Mr Malik yn dweud bod yr arian ar gyfer treuliau oedd wedi eu cronni hyd at Ragfyr 2009.
Fe aeth yr erlynydd Jim Davis drwy ddatganiadau banc Mr Malik, a dywedodd bod y treuliau dilys ar gyfer y cyfnod yma yn dod i gyfanswm o tua £900, a dylai'r treuliau teithio fod yn rhyw £1,600.
Dywedodd Mr Malik nad oedd yn dadlau â'r ffigyrau ond fod rhai pethau wedi cael eu talu amdanynt ag arian parod ac felly nad oedden nhw'n ymddangos ar y datganiad banc.
'Cegin oedd e'
£9,340 oedd gwerth yr ail siec ond yn ôl Mr Davis dim ond £1,140 ddylai fod wedi cael ei dalu.
Dywedodd Mr Malik fod yr arian wedi cael ei ddefnyddio fel fflôt ar gyfer costau fel tripiau dramor, ond clywodd y llys nad oedd unrhyw dripiau wedi digwydd.
Fe dynnodd Mr Davis sylw at y ffaith bod Mr Malik wedi gwario £5,000 yn Ikea yr adeg hynny. Dywedodd Mr Malik nad oedd yn cofio ar be'r oedd wedi gwario'r arian.
Dywedodd Mr Davis: "Cegin oedd e. Chi wedi gweld eich bod yn cael siec er mwyn clirio'r cerdyn credyd.
"Doeddech chi ddim yn ei ddefnyddio i dalu am eich costau teithio, roeddech yn ei ddefnyddio i dalu am gegin."
"Rwy'n gwrthod hynny," meddai Mr Malik mewn ymateb.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2014