Rhagfarn yn 'rhemp' o fewn y gêm

  • Cyhoeddwyd
Arglwydd Ouseley

Mae cadeirydd elusen sy'n brwydro'n erbyn hiliaeth mewn pêl-droed wedi dweud fod rhagfarn ar sail hil yn rhemp o fewn y gêm a chymdeithas yn gyffredinol.

Dywedodd yr Arglwydd Ouseley bod yr helynt sy'n ymwneud â sylwadau yr honnir iddyn nhw gael eu gwneud gan gyn reolwr Caerdydd Malky Mackay yn enghraifft o hyn.

Mae Mr Mackay wedi ymddiheuro am rai o'r negeseuon ond wedi dweud mai banter cyfeillgar oeddynt gan ychwanegu nad oedd ef wedi gyrru negeseuon gwrth-hoyw na rhai dilornus am ferched.

Fe wnaeth yr elusen dderbyn 269% yn fwy o adroddiadau o ddigwyddiadau y tymor diwethaf o'i gymharu â'r tymor blaenorol, yn ôl ffigyrau newydd.

'Newid ymddygiad'

Gan gyfeirio at ffaith bod dros dair gwaith mwy o gwynion wedi eu gwneud yn nhymor 2013/14 na'r flwyddyn cynt, dywedodd yr Arglwydd Ouseley:

"Rydym yn rhan o broses sy'n gweithio tuag at gael gwared ar wahaniaethu o bêl-droed, ond mae e hefyd ynglyn ag adeiladu hyder yn y ffordd mae'r sefydliad pêl-droed yn cynnal ei hun ac yn gwneud penderfyniadau sydd ddim yn cael effaith negyddol, sut mae'n agor i fyny i fod fwy croesawgar i fenywod, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, yr anabl...

"Ac yr unig ffordd i adeiladu'r hyder yna yw i gael pobl i newid eu hymddygiad ac rwy'n credu bod y profiad o chwarae a gwylio pêl-droed yn llawer gwell nawr nag oedd yn arfer bod, ac mae'r ffaith bod pobl yn teimlo'n fwy hyderus i gwyno am ddigwyddiadau yn rhan bwysig o achosi newid.

"Rydym yn bell iawn, iawn o gyrraedd lle rydym ni eisiau bod ond rydym ar y trywydd iawn ac rydym yn parhau i weithio'n galed."

'Rhemp'

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Moody (chwith) y sac gan Crystal Palace yn dilyn cyhoeddiad y negeseuon ac fe gafodd Mackay ei ddiystyru o rôl y rheolwr

Daw'r ffigyrau newydd yng nghanol stŵr ynglyn â'r negeseuon gafodd eu hanfon rhwng cyn reolwr Caerdydd Malky Mackay a'i bennaeth recriwtio ar y pryd Iain Moody.

Mae rhai o'r negeseuon hyn yn cynnwys sylwadau hiliol ac eraill yn siarad yn ddilornus am ferched a phobl hoyw.

Gan gyfeirio at hyn yn benodol, dywedodd yr Arglwydd Ouseley: "Dydyn ni yn Kick it Out ddim yn synnu achos mae rhagfarn yn rhemp o fewn ein cymdeithas o ran hiliaeth, rhagfarn rhyw a homoffobia, rhagfarn yn erbyn pobl anabl.

"Rydym yn gwybod ei fod yn bodoli o fewn y gêm. Y broblem fwyaf i ni yw, yn lefelau'r gêm mae pobl sy'n arwain ac yn gwneud penderfyniadau, y bobl bwysicaf ym mhêl-droed heblaw am y chwaraewyr - dydyn nhw ddim yn gwneud dim byd am y peth...

"Oes mae'n rhaid i ni ddelio ag ymddygiad, ond os na allwn ni newid cymdeithas - ac nid pêl-droed yn unig sydd angen gwneud hyn - i ddelio gyda rhagfarn a sut mae pobl yn siarad am bobl eraill hyd yn oed mewn sefyllfaoedd preifat... yna rydym yn gwneud camgymeriad mawr ac mae'n rhaid i bêl-droed sylwi bod rhagfarn yn rhemp yn y gêm yn enwedig o ran pobl sydd ar y top."

'Banter'

Nos Iau fe wnaeth y corff sy'n cynrychioli buddiannau rheolwyr, y League Managers' Association (LMA), ryddhau datganiad yn dweud: "Mae wedi dod i'r amlwg fod Malky, mae'n debyg, wedi gyrru cwpl o negeseuon testun un llinell oedd, gyda synnwyr trannoeth, yn anffodus ac yn amharchus tuag at ddiwylliannau eraill.

"Dwy neges oedd y rhain gafodd eu gyrru ar amser pan roedd Malky o dan straen anferth ac yn ceisio cael gwared â stem drwy gyfrwng banter cyfeillgar.

"Wedi dweud hynny, mae Malky'n credu y dylai fod wedi ymddwyn yn well ar y ddau achlysur ynysig yma."

Mae'r datganiad yn mynd ymlaen i ddweud nad oes unrhyw awgrym fod Mackay wedi gyrru negeseuon homoffobig na rhai sarhaus tuag at ferched.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Jason Roberts wedi beirniadu'r LMA yn y gorffennol am beidio gwneud digon i fynd i'r afael â hiliaeth

Fe wnaeth llawer o bobl fynegi eu dig gyda'r dewis o'r gair banter ar wefannau cymdeithasol, gan ddweud ei fod yn ffordd sarhaus o drafod pwnc difrifol.

Fe ddywedodd cyn ymosodwr Reading Jason Roberts, sy'n gwneud llawer o waith yn brwydro hiliaeth: "Fe wnaeth yr LMA ysgrifennu hyn go iawn. Maen nhw go iawn o ddifri! Fe wnaeth rhywun sgwennu hwnna... WOW!"