Wrecsam: Cyfarfod i drafod tanau bwriadol

  • Cyhoeddwyd
Injan dân

Bydd cyfarfod cymuned amlasiantaethol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt yn Wrecsam i drafod cyfres ddiweddar o danau bwriadol sydd wedi eu cynnau yn ardal Gwersyllt o'r dref.

Yn gynharach yn y mis roedd diffoddwyr tân wedi ymateb i chwech o alwadau mewn cyfnod o bedwar diwrnod yn ardal Gwersyllt - a hynny yn hwyr yn y nos neu yn ystod oriau mân y bore.

Cafodd y tanau eu cynnau mewn biniau sbwriel, ac ar ffensys a phalets pren.

Ar y pryd dywedodd Kevin Jones, swyddog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod y tanau yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau.

"Mae'r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl annerbyniol ac rydym yn apelio ar y cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau, a gan fod criwiau yn gorfod cymryd amser maith i reoli tanau o'r fath mae hynny yn eu hatal rhag ymateb i alwadau eraill - a allai hynny arwain at drychineb."