Dechrau gwych i Donaldson

jamie donaldson Image copyright Getty Images

Mae Jamie Donaldson wedi cael y dechrau gorau posib ym Mhencampwriaeth Meistri'r Weriniaeth Siec yn Prague.

Fe fyddai canlyniad da bron yn siŵr o sicrhau lle'r golffiwr o Bontypridd yn nhîm Ewrop ar gyfer Cwpan Ryder yn Gleneagles ym mis Medi.

Ar ddiwedd y rownd gyntaf yn Prague, mae Donaldson ar y blaen wedi rownd ardderchog o 66 - chwe ergyd yn well na'r safon - ac un ar y blaen i Mikael Lundberg o Sweden.

Nid Donaldson oedd yr unig Gymro sy'n dathlu chwaith gan i rownd o 68 gan Bradley Dredge olygu ei fod yntau'n gydradd drydydd ar ddiwedd y rownd gyntaf. Roedd hynny wedi i Dredge orffen yn ail ar gylchdaith Ewrop yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Stuart Manley rownd o 71 - un yn well na'r safon - hefyd, ond doedd dim cystal hwyliau i Rhys Davies a Stephen Dodd (y ddau gyda 73) na Philip Price (77).