500 o gartrefi heb nwy yn ardal Nanyglo, Blaenau Gwent
- Cyhoeddwyd

Mae tua 500 o gartrefi yn ardal Nantyglo o Flaenau Gwent heb nwy wedi i ddŵr o'r prif bibell lifo mewn i'r pibellau nwy.
Mae'r cwmni Wales and West Utilities yn dweud bod peirianwyr yn gweithio i ddatrys y broblem, sy'n cael ei disgrifio fel un 'gymhleth'.
Dywedodd y cwmni bod eu peirianwyr yn ymweld â phob tŷ sydd wedi eu heffeithio er mwyn sicrhau bod y cyflenwad nwy wedi ei ddiffodd.
Bydd y peirianwyr yn dychwelyd i roi'r cyflenwad nwy yn ôl ymlaen pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
Dywedodd y cwmni y bydd cwsmeriaid bregus yn derbyn cyfleusterau coginio a gwresogi eraill os oes angen.
Gall unrhyw un sydd angen cymorth ffonio Wales and West Utilities ar 0800 9122999.