Ebola: Dynes o Gymru 'ddim mewn perygl'

  • Cyhoeddwyd
Model molecwlar o ran o'r firws EbolaFfynhonnell y llun, SPL

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad yw dynes o Gaerdydd bellach mewn perygl o ddatblygu'r firws Ebola.

Roedd y ddynes wedi bod mewn cwarantin gwirfoddol, gan gadw draw o'r gwaith a chyfyngu ar ymwneud ag eraill, wedi iddi ddychwelyd o wlad yng ngorllewin Affrica ble mae pobl wedi bod yn dioddef o Ebola.

Wedi iddi ddychwelyd o orllewin Affrica roedd y ddynes wedi dweud wrth swyddogion iechyd bod posibilrwydd ei bod hi wedi dod i gysylltiad â'r firws, sydd wedi lladd cannoedd o bobl yn Liberia, Sierra Leone, Nigeria a Guinea.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y cyfnod cwarantin o 21 diwrnod wedi dod i ben ac nad oedd hi bellach mewn perygl o ddatblygu'r firws.

Yn ôl y mudiad iechyd nid yw'r ddynes wedi datblygu unrhyw symptomau pellach o'r firws ac nid yw hi mewn perygl.

'Parhau'n wyliadwrus'

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gallwn gadarnhau bod unigolyn sy'n byw yng Nghymru a allai fod wedi dod i gysylltiad ag Ebola wrth ymweld â gorllewin Affrica wedi gorffen ei chyfnod cwarantin.

"Mae'r cyfnod cwarantin hiraf ar gyfer Ebola wedi dod i ben ac nid yw'r unigolyn mewn perygl."

Yn ogystal mae'r llefarydd wedi cadarnhau nad oes yr un achos o Ebola yng Nghymru.

"Rydyn ni'n wyliadwrus ynghylch y posibilrwydd o achosion Ebola yn y DU oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn Sierra Leone, Liberia a Guinea ac rydym yn parhau'n wyliadwrus yn achos salwch sydd heb ei esbonio mewn pobl sydd wedi teithio o'r ardal.

"Mae prosesau wedi datblygu i ddiogelu iechyd y cyhoedd pe bai ni'n cael gwybod am unrhyw unigolyn a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r firws."