BBC Cymru Fyw

Heddlu: David Markey yn ddiogel

Published
image copyrightOther
image captionRoedd pryder am les David Markey
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi bod dyn 72 oed oedd ar goll bellach wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel.
Roedd pryder am David Markey o ardal Tregynnwr, Caerfyrddin wedi i'r heddlu gael galwad yn dweud nad oedd wedi cael ei weld ers dydd Sadwrn.
Brynhawn Gwener, dywedodd yr heddlu: "Rydym yn falch o allu dweud fod y dyn 72 mlwydd oed Mr Markey wedi cael ei ddarganfod yn fyw ac yn iach yn Llundain.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu help gyda'r apêl yma."

Straeon perthnasol

  • Pryder yng Nghaerfyrddin am ddyn coll