Bala 1-2 Rhyl
- Cyhoeddwyd

Aaron Bowen oedd yr arwr unwaith eto i'r Rhyl wrth iddyn nhw sicrhau triphwynt yn y Bala.
Fe sgoriodd hatric yn erbyn Bangor yn y gêm dderbi dair wythnos yn ôl ac fe sgoriodd ddwy bwysig arall yma wrth iddo wneud dipyn o enw iddo'i hun.
Rhoddodd ei dîm ar y blaen wedi 28 munud ar Faes Tegid gan ei gwneud hi'n ddwy cyn diwedd yr ail hanner.
Roedd Bala'n teimlo eu bod nhw braidd yn anlwcus i fod ddwy ar ei hôl hi ac fe ddechreuon nhw'r ail hanner yn benderfynol o wneud yn iawn am y peth.
Fe gafon nhw gôl diolch i Ian Sheridan ond dim ond deng munud oedd ganddyn nhw i gael un arall, a doedd hynny ddim yn ddigon.
Mae'r Rhyl bellach yn seithfed yn y tabl gyda'r Bala yn parhau yn bedwerydd er gwaetha'r ffaith eu bod nhw bellach wedi colli tair yn olynol.