Damwain A465: Dyn wedi marw
- Published
Mae'r heddlu wedi arestio dau berson wedi i yrrwr beic modur farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A465 ger Gilwern yn ardal Y Fenni.
Fe ddigwyddodd y ddamwain toc wedi hanner nos neithiwr.
Roedd y dyn 53 oed yn dod o ardal Nantyglo, a bu farw yn y fan a'r lle.
Nawr mae'r heddlu'n ymchwilio i weld beth achosodd y ddamwain.
Mae dyn 37 oed o Frynmawr a dynes 34 oed o Gilwern wedi eu harestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae'n nhw'n parhau i fod yn y ddalfa yn cael eu holi.
Fe fydd yr A465 rhwng yr Hardwick a Gilwern yn parhau i fod ynghau am beth amser, wrth i'r heddlu ymchwilio.
Gall unrhywun â gwybodaeth am y ddamwain gysylltu â'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod 11 23/08/14.