'Rhai dyddiau' i drwsio cyflenwad nwy Nantyglo

  • Cyhoeddwyd
Ceisio pwmpio'r dŵr o'r beipen nwy
Disgrifiad o’r llun,
Ceisio pwmpio'r dŵr o'r beipen nwy

Gallai gymryd "rhai dyddiau" i drwsio cyflenwad nwy wedi i ddŵr lifo i mewn i beipen nwy yn Nantyglo, Blaenau Gwent.

Yn ôl cwmni ynni Wales and West, mae mwy na 750 o gartref wedi eu heffeithio.

Mae peirianwyr wedi bod yn gweithio i bwmpio'r dŵr o'r beipen, wedi i bibell ddŵr ffrwydro ac achosi'r broblem.

Ond mae'r cwmni'n dweud y bydd y gwaith yn cymryd peth amser gan ei bod hi'n "broses gymhleth".

Mae cyfleusterau ymolchi wedi eu darparu, ac mae cwsmeriaid bregus wedi derbyn gwresogyddion a phlatiau o fwyd poeth.

Hyd yn hyn, mae Wales and West wedi pwmpio 100,000 litr o ddŵr o'r beipen nwy.

"'Dy ni'n gweithio'n gyson i ddatrys y broblem. Allwn ni ddim dweud pryd, yn union fydd y cyflenwad nwy yn ôl," meddai llefarydd.