IPC Abertawe : 'Y gorau erioed'

Kyron Duke, Aled Sion Davies a Laura Sugar
Image caption Kyron Duke, Aled Sion Davies a Laura Sugar - rhai o'r Cymry fu'n llwyddiannus yn y Bencampwriaeth

Mae pennaeth y Pwyllgor Rhyngwladol Paralympaidd wedi canmol Pencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe wrth i'r gemau dynnu at eu terfyn.

Yn ôl Ryan Montgomery, mae Abertawe wedi cynnal y gemau "gorau erioed".

Mae 'na rai o baralympwyr amlyca' Cymru wedi profi llwyddiant yn rhan o dîm Prydain yn ystod y gemau - nifer ohonynt yn ennill dwy fedal yr un.

Yn enw cyfarwydd wedi iddo arwain Tîm Cymru yn Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, roedd Aled Sion Davies ymysg athletwyr mwyaf llwyddiannus y Bencampwriaeth, gan gipio dwy fedal aur.

Fe enillodd y gyntaf am daflu'r pwysau, a'r ail am daflu'r ddisgen - y ddwy gamp yng nghategori F42.

Dwy i Duke

Dwy fedal aur i Aled, a dwy arian i Kyron Duke - fe ddaeth yr athletwr 21 oed yn ail yn y cystadlaethau taflu gwaywffon a thaflu pwysau yng nghategori F41.

Ar ddiwrnod cynta'r Bencampwriaeth, fe gyfranodd y Cymry bedair medal efydd at gyfanswm Prydain.

Llwyddodd Laura Sugar, oedd yn arfer chwarae hoci i Gymru, i ennill y fedal Gymreig gyntaf drwy ddod yn drydydd yn y ras T44 100m gyda'i hamser gorau erioed o 13.71 eiliad.

Fe ddaeth y dair medal efydd arall yn y rasys 100m hefyd diolch i Jordan Howe (T35), Rhys Jones (T37) a Bradley Wigley (T38).

O'r 100 i'r 200m

Yna, ddydd Iau fe lwyddodd Laura Sugar i ychwanegu medal efydd arall wrth iddi ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth 200m (T44), i ychwanegu at yr un roedd hi eisoes wedi ei gael yn y 100m.

A daeth ail fedal efydd i Jordan Howe hefyd yn y 200m (T35) ac yntau hefyd wedi ennill ei un gyntaf yn y 100m.

Daeth pedwaredd medal y dydd i'r Cymry wrth i Bradley Wigley hefyd ennill ei ail fedal efydd yr wythnos.

Wedi ei lwyddiant yn y 100m, daeth Wigley'n drydydd yn y 200m T38.

Straeon perthnasol