Cludo morwr i'r ysbyty mewn hofrennydd
- Published
Wedi iddo fynd i drafferthion yn y môr ger Ynys Môn, mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Fe gafodd bad achub Biwmares ei alw toc cyn un b'nawn Sadwrn.
Fe gafodd y cwch motor cruiser ei arwain tuag at pier Biwmares gyda chymorth Gwylwyr y Glannau Penmon.
Daeth hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali i gludo'r dyn 58 oed i Ysbyty Gwynedd.
Mae adroddiadau fod ganddo anafiadau i'w asgwrn cefn.