Alfreton 2-3 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Fe sgoriodd Connor Jennings ei gôl gyntaf i Wrecsam
Wedi gêm gyffrous, fe sicrhaodd Wrecsam fuddugoliaeth yn erbyn Alfreton yn y Gyngres.
Alfreton sgoriodd gyntaf, ond fe darodd y Dreigiau'n ôl gyda gôl gan Louis Moult.
Daeth dwy gôl arall i Wrecsam gan Blaine Hudson a Connor Jennings.
Fe gafodd Luke Graham ei anfon o'r cae wedi iddo dderbyn ail gerdyn melyn, cyn i Paul Clayton sgorio ar ran Alfreton.
Dyma drydedd buddugoliaeth tîm Kevin Wilkins y tymor hwn.