Casnewydd 1-1 Burton Albion
- Published
image copyrightHuw Evans Agency
Bu'n rhaid i Gasnewydd fodloni ar eu pwynt cyntaf yn yr Ail Adran y tymor hwn, wedi i gôl gan John Mousinho rwystro eu gobeithion am fuddugoliaeth.
Fe rwydodd Chris Zebroski i roi'r Alltudion ar y blaen wedi 37 munud.
Ond gwta chwarter awr wedi hynny, roedd y gêm yn gyfartal.
Felly'r arhosodd hi tan y chwiban ola' ar Rodney Parade.