URC a'r rhanbarthau: Cytundeb ar droed?
- Cyhoeddwyd

Gallai Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth gyhoeddi diwedd i'r anghydfod rhwng y sefydliadau yr wythnos hon.
Mae disgwyl i naw chwaraewr arall ymuno â Sam Warburton ar gytundebau deuol yn rhan o'r cytundeb newydd.
Os aiff y cytundeb yn ei flaen, bydd nawdd ychwanegol i'r 10, yn ogystal â £6.7 miliwn i'w rannu rhwng Gleision Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau yn flynyddol.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i URC a'r rhanbarthau am sylw.
Rhyddhau chwaraewyr rhyngwladol
Fe ddaeth y cytundeb diwethaf i ben ym mis Mehefin, ac os na ddaw'r anghydfod i ben mae'r rhanbarthau'n wynebu bwlch o £6.7 miliwn ar ddechrau'r tymor newydd.
Roedd y cytundeb blaenorol yn caniatâu rhyddhau chwaraewyr i hyfforddi am bythefnos cyn gemau rhyngwladol yr hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad - yn cynnwys gêm olaf cyfres yr hydref, sy'n digwydd y tu allan i ffenestr gemau rhyngwladol.
Os na chaiff cytundeb newydd ei lunio, gallai'r rhanbarthau wrthod rhyddhau chwaraewyr, gan olygu y bydd Cymru'n wynebu De Affrica heb chwaraewyr rhanbarthol ar 29 Tachwedd.
Yn ystod yr anghydfod, fe luniodd timau yn Ewrop gystadleuaeth newydd fydd yn digwydd yn lle Cwpan Heineken y tymor nesa'.
Roedd y rhanbarthau - a'u cynrychiolydd Regional Rugby Wales - yn rhan o'r cytundeb hwnnw, ac mae gan y pedwar rhanbarth cynrychiolaeth ar y bwrdd.
Er hyn, fydd y rhanbarthau ddim yn derbyn cyllid y gystadleuaeth honno nes mis Hydref.
Incwm cyson
Roedd y rhanbarthau'n cael eu hariannu'n rhannol gan URC yn unol â'r cytundeb blaenorol, gan sicrhau lefel gyson o incwm, a galluogi'r rhanbarthau i ryddhau chwaraewyr ar gyfer gemau rhyngwladol.
Roedd gweddill arian y rhanbarthau'n dod drwy gystadlu mewn pencampwriaethau.
Fe fydd y drefn yn debyg yn y cytundeb newydd, arfaethedig.
Roedd y rhanbarthau'n cwyno nad oedd yr hen gytundeb yn rhoi digon o arian iddyn nhw allu cystadlu yn erbyn clybiau yn Ffrainc a Lloegr.
Mae nifer o chwaraewyr amlwg o Gymru eisoes wedi symud i chwarae yn Ffrainc neu Loegr, a'r rhanbarthau'n mynnu ei bod hi'n amhosibl cynnig yr un cyflog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2014
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd22 Mai 2014