Tynnu corff plymiwr o chwarel yn Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu'n dweud fod corff dyn fu'n plymio mewn hen chwarel yng ngogledd Cymru wedi ei ganfod dros nos.
Fe aeth y dyn - sy'n dod o Swydd Gaerlŷr - i drafferthion yn Aber Las ger Llangollen b'nawn Sadwrn.
Daeth arbenigwyr o'r Sefydliad Achub Ogof yn Swydd Efrog i helpu i chwilio amdano.
Fe gafodd corff dyn ei ganfod a'i dynnu o'r dŵr yn oriau mân bore Sul.
Mae ei deulu wedi cael gwybod.
Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ond mae ymchwiliad yn parhau ar ran y crwner.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol