BBC Cymru Fyw

Cymro yn nhîm Cwpan Ryder

Published

Mae'r Cymro Jamie Donaldson wedi sicrhau ei le yn nhîm Cwpan Ryder Ewrop, wedi iddo guro Pencampwriaeth Meistri Gweriniaeth Siec yn Prague.

Er mwyn cael ei le yn garfan, roedd o angen sicrhau ei fod yn gorffen yn y seithfed safle, o leia'.

Dyma drydedd buddugoliaeth Donaldson ar y Daith Ewropeaidd.

Fe gurodd o'i gyd-Gymro, Bradley Dredge o ddwy ergyd, gan orffen y rownd ola' ar 68, ac 14 yn well na'r safon.

Nawr, am y tro cynta', fe fydd y gwr 38 oed yn cystadlu yng Nghwpan Ryder yn Gleneagles fis Medi.

Straeon perthnasol

  • Donaldson yn arwain y ffordd