Eisteddfod yn ysbrydoli'r Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Gwyl Ger y MorFfynhonnell y llun, Gwyl ger y mor

Mae gŵyl Gymraeg newydd yn cael ei chynnal yn y Rhyl heddiw - y tro cyntaf i'r cyngor sir drefnu digwyddiad diwylliannol Cymraeg yn y dref.

Yn ôl un o'r trefnwyr, Julie Howatson Broster, cynnal yr Eisteddfod yn Ninbych oedd yr ysbrydoliaeth dros drefnu Gŵyl Ger y Môr.

"Blwyddyn dwytha' roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn Ninbych a ro'n i'n eistedd efo pennaeth adran hamdden Cyngor Sir Ddinbych," meddai.

"Ac roedd o wedi gwirioni efo'r set-up o gwmpas y bar lle'r oedd y bandia'n chware'n fyw.

"Dwi'n meddwl ar y pryd mai Gwibdaith oed yn chwarae ac roedd y plant yn dawnsio ac roedd hi wedi cychwyn glawio ac roedd yr awyrgylch jest yn ffantastig a nath o ddeud 'dwi isio cynnal rwbath fel'ma ond yn Rhyl i'r Cymry Cymraeg'."

Mae Gwibdaith Hen Fran yn un o'r bandiau fydd yn chwarae yn ystod y dydd, yn ogystal ag enwau mawr eraill fel Bryn Fôn, Meinir Gwilym a Sŵnami.

'Hybu diwylliant Cymraeg'

Nid cerddoriaeth yw'r unig atyniad fydd yn rhan o'r ŵyl gan y bydd nifer o weithgareddau a stondinau ar gael.

Dywedodd pennaeth cyfathrebu, marchnata a hamdden y cyngor, Jamie Groves: "Gwyl Ger y Môr yw'r cyntaf i gael ei threfnu gan y cyngor er mwyn hybu diwylliant Cymraeg.

"Fel cyngor rydym wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn ein sir ac yn annog pobl leol ac ymwelwyr i gael dealltwriaeth well o ddiwylliant a thraddodiadau Cymraeg.

"Mae gennym ni nawr well ffocws yn Sir Ddinbych ar ddenu a threfnu digwyddiadau mawr fydd yn helpu i hyrwyddo diwylliant Cymraeg, gan sicrhau hefyd fod busnesau lleol ac economi ehangach sir Ddinbych yn gweld budd o'n dulliau newydd."

Mae'r ŵyl yn digwydd yn arena ddigwyddiadau'r Rhyl rhwng hanner dydd a 20:00 ddydd Llun Gŵyl y Banc.