BBC Cymru Fyw

Wrecsam 2 - 2 Macclesfield

Published
Cyfartal oedd hi mewn gêm gyffrous ar Gae'r Ras wrth i Wrecsam sicrhau pwynt haeddiannol yn erbyn Macclesfield.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen bum munud cyn yr hanner amser wrth i Waide Fairhurst ddarganfod cefn y rhwyd gydag ergyd isel wedi iddo lwyddo i droi ei amddiffynnwr.
Ond roedd hi'n gyfartal yn fuan wedyn diolch i Connor Jennings a lwyddodd i roi croesiad Neil Ashton yn y gôl.
Aeth y Dreigiau ar y blaen ar yr awr - Blaine Hudson yn defnyddio'i ben i roi croesiad arall gan Ashton yng nghefn y rhwyd.
Yn anffodus i Wrecsam roedd eu gwrthwynebwyr hefyd yn gallu penio ac fe lwyddodd Turnbull i sicrhau pwynt i'w dîm wedi 74 munud.