Llwyddiant i gyfres ddrama Sherlock
- Published
Roedd llwyddiant i gyfres ddrama BBC Cymru, Sherlock yn noson wobrwyo'r Emmys yn Los Angeles dros nos.
Mi enillodd dair gwobr i gyd - teitl yr actor gorau i Benedict Cumberbatch, gyda Martin Freeman yn ennill gwobr yr actor cynorthwyol gorau, a Stephen Moffat yn cael gwobr am ei sgript ar gyfer y bennod olaf.
Cynhyrchir Sherlock yn stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd, yn ogystal â Doctor Who, Casualty a Pobol y Cwm ymhlith eraill.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth cwmni Bang Post Production o Gaerdydd ennill gwobr Emmy am eu gwaith ar gyfres Sherlock.
Dyfarnwyd y wobr Emmy Celfyddydau Creadigol yn y categori 'Golygu sain rhagorol mewn mini-gyfres neu ffilm'.
Bang Post Production yw'r cwmni cyntaf erioed o Gymru i ennill Emmy yn y category hwn.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Chwefror 2014
- Published
- 30 Awst 2013