BBC Cymru Fyw

Gwrthdrawiad: Anafu tri cherddwr yng Nghaerllion

Published
image copyrightGoogle
image captionRoedd y ddamwain yn Heol Ponthir, Caerllion nos Sadwrn
Mae dau ddyn a menyw wedi cael eu hanafu'n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan gar.
Fe wnaeth gyrrwr y car ffoi cyn i'r heddlu gyrraedd.
Cafodd y dynion, 79 a 63 oed, a'r fenyw 71 oed eu hanafu yn Heol Ponthir, Caerllion nos Sadwrn ar ôl gwrthdrawiad â Vauxhall Corsa aur.
Credir bod y gyrrwr yn ddyn yn ei 20au.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.