Damwain A465: Enwi dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Alwyn PritchardFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yn Swyddog Cymorth Cymunedol yn Heddlu Gwent.

Mae'r heddlu wedi enwi gyrrwr beic modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A465 ger Gilwern yn ardal Y Fenni ddydd Sadwrn.

Roedd Alwyn Pritchard, 53 oed, yn dod o ardal Nantyglo, a bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd yn Swyddog Cymorth Cymunedol yn Heddlu Gwent.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Roedd Alwyn yn ŵr, tad, tad-cu, brawd ac ewythr annwyl .

"Yr oedd yn ofalgar a ffyddlon, yn cael ei barchu gan bawb a gyfarfu ag ef.

"Roedd yn esiampl i bawb, a gwnaeth argraff ar gymaint o bobl drwy gydol ei fywyd yn yr heddlu ac fel rhiant maeth".

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r ddamwain.

Cafodd dyn 37 oed o Frynmawr a menyw 34 oed o Gilwern eu harestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y ddamwain gysylltu â'r heddlu ar 101.