Adfer cyflenwadau nwy
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhan fwyaf o'r cartrefi oedd wedi colli eu cyflenwad nwy yn ardal Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent, bellach wedi cael eu hailgysylltu.
Roedd tai a busnesau wedi bod heb gyflenwadau ers i bibellau nwy gael eu difrodi ar ôl i ddŵr ollwng o bibau dŵr cyfagos ddydd Iau.
Yn wreiddiol roedd 755 o dai heb gyflenwad nwy.
Mae Wales and West Utilities (WWU) yn dweud eu bod nhw, erbyn hyn, yn gweithio i drwsio offer sydd wedi ei ddifrodi gan y dŵr.
'Ymdrech anferth'
Dywedodd ei bod wedi bod yn "ymdrech anferth" i ailgysylltu'r 755 o gartrefi oedd heb gyflenwad nwy, gyda 60 o beirianwyr yn gweithio, ar brydiau, am 24 awr y dydd.
Roedd yn rhaid pwmpio mwy na 150,000 litr o ddŵr o tua 10 cilometr o'r rhwydwaith nwy.
Dywedodd llefarydd ar ran WWU eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru i drwsio offer nwy sydd wedi ei ddifrodi.
"Erbyn hyn, rydym ni'n gweithio ar gyrraedd y rhannau hynny o'r rhwydwaith y mae hi'n anodd i'w cyrraedd er mwyn tynnu'r digwyddiad hwn at ei derfyn."
Yn ogystal diolchodd y cwmni i'r gymuned am eu hamynedd ers y digwyddiad ddydd Iau.