Gwahardd pensiynwraig rhag gyrru

  • Cyhoeddwyd

Mae pensiynwraig o Brestatyn oedd wedi yfed tair gwaith y lefel gyfreithlon o alcohol wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Cafodd Muriel Macbryde, 74 oed, ddedfryd o garchar wedi ei ohirio, a bydd yn rhaid iddi gymryd prawf gyrru estynedig cyn cael gyrru eto.

Clywodd Ynadon Prestatyn fod ei char wedi gwrthdaro â dwy dafarn yn y dre a bod hi'n hynod o ffodus na chafodd unrhyw un ei anafu.

Tarodd ei char VW Polo yn erbyn wal tafarn y Cross Foxes cyn taro yn erbyn Bar 236.

Brandi

Dywedodd yr erlynydd James Neary fod gan Macbryde 94 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl. Y terfyn cyfreithiol yw 35.

Plediodd y bensiynwraig yn euog i yfed a gyrru ac i gyhuddiad o yrru'n beryglus.

Dywedodd Robert Vickery, ar ran yr amddiffyniad, fod y diffynnydd wedi bod yn teimlo'n isel oherwydd salwch ei mab a'i bod wedi bod yn yfed tua hanner potel o frandi'r dydd.

Ychwanegodd nad yw Macbryde wedi yfed ers y digwyddiad a'i bod wedi gofyn am gymorth gyda'i chyflwr.

Cafodd ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, a dedfryd o dri mis o garchar wedi ei ohirio am 12 mis.