BBC Cymru Fyw

Dwy ferch yn cael eu taflu yn erbyn creigiau

Published
image copyrightNigel Homer
image captionMae'r ddwy wedi cael anafiadau i'w cefn ar ôl cael eu taflu yn erbyn creigiau gan y tonnau.

Mae dwy ferch 12 oed yn cael triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ym Mro Morgannwg nos Fawrth.

Mae'n debyg i un ferch gael ei sgubo i'r môr ym mae Tresilian yn Llanilltud Fawr, ar i'r llall fynd i'r môr i geisio ei helpu.

Mae'r ddwy wedi cael anafiadau i'w cefn ar ôl cael eu taflu yn erbyn creigiau gan y tonnau.

Roedd bachgen 12 oed wedi deialu 999 ar ffôn symudol am 7:50 pm.

Dywedodd David Hughes o Wylwyr y Glannau Abertawe bod grŵp o saith neu wyth o bobl ifanc ar y draethlin ac nid oedd unrhyw oedolion yn bresennol.

Cafodd y ddwy eu cludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.