Cynhadledd buddsoddiad rhyngwladol yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Vince CableFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Vince Cable ar ymwelid â ffatri Sony ym Mhencoed

Mae Ysgrifennydd Busnes y DU, Vince Cable, wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn cynnal cynhadledd buddsoddiad rhyngwladol gyda'r nod o greu swyddi a thwf economaidd.

Bydd y digwyddiad yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd yn canolbwyntio ar dechnolegau newydd ac yn dilyn Uwchgynhadledd NATO yn yr un lleoliad 4-5 Medi.

Gwnaeth Mr Cable y cyhoeddiad gyda Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart, yn ffatri Sony ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

'Lleoliad gwych'

Dywedodd Mr Cable y bydd Uwchgynhadledd Buddsoddiad y DU -UK Investment Summit - ar 20-21 Tachwedd, yn gyfle i "ddangos cryfderau Cymru fel lleoliad gwych ar gyfer busnes a lleoliad sy'n agored i fuddsoddiad o dramor."

Ychwanegodd: "Mae strategaeth ddiwydiannol llywodraeth y DU yn rhoi'r hyder i fusnesau i fuddsoddi yn y tymor hir, gan greu'r math o swyddi o safon uchel sydd eu hangen ar y wlad i ffynnu yn y dyfodol.

"Bydd hyn yn helpu i greu economi cryfach a thecach yng Nghymru a gweddill y DU."

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod buddsoddiad yng Nghymru ar ei uchaf ers bron i 25 mlynedd.

Mae ystadegau gan adran Masnach a Buddsoddiad y DU yn dangos bod 79 o gwmnïau o dramor wedi buddsoddi yng Nghymru yn 2013-2014.

Cymru - llawer i'w gynnig

Dywedodd Ms Hart y byddai'r gynhadledd buddsoddiad yn canolbwyntio ar "ystod o dechnolegau blaengar fydd yn ein galluogi i bwysleisio arbenigedd Cymreig yn y maes hwn ar draws nifer o ddiwydiannau allweddol.

"Mae'r gwaith arloesol, ynghyd â'r ymchwil a'r datblygiad, sy'n cael ei wneud gan sefydliadau academaidd arbenigol a chwmnïau yng Nghymru o ddiddordeb rhyngwladol.

"Ynghyd â gallu cyfrifiadurol o'r safon uchaf a chyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, mae gan Gymru llawer i'w gynnig i fuddsoddwyr posibl sydd eisiau datblygu eu busnesau."