Dynes wedi marw yn dilyn tân yn y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd yn ei 70au wedi marw yn dilyn tân yn ei fflat yn y Barri.
Cafodd y ddynes ei chludo o'r fflat yng Nghwrt Avocet yn fyw gan y gwasanaethau brys, wedi i'r heddlu gael eu galw yno am 13:55.
Ond bu farw yn fuan wedyn.
Mae Heddlu'r De wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.