Arestio dau yn dilyn marwolaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r strys yma yn y Rhisga nos Fercher
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw yn dilyn digwyddiad yn Rhisga, ger Casnewydd.
Roedd dyn 35 oed wedi cael ei drywanu.
Cafodd yr Heddlu eu galw i Glôs Twmbarlwm tua 20:45 nos Fercher.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi wedi cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond bu farw oherwydd difrifoldeb ei anafiadau.