Arestio dau ddyn yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerllion
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i wrthdrawiad ar Ffordd Ponthir yng Nghaerllion tua 21:05 nos Sadwrn, 23 Awst wedi arestio dau ddyn.
Bu car Vauxhall Corsa mewn gwrthdrawiad gyda thri pherson ar ochr y ffordd ger gwesty'r Roman Lodge yn y dref.
Cafodd dyn 79 oed, dynes 71, a dyn 63, i gyd eu hanafu'n ddifrifol, ond maent bellach mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Roedd y gyrrwr wedi ffoi o'r fan lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad ynghyd a dynes arall oedd yn teithio yn y cerbyd yr un pryd cyn i'r heddlu gyrraedd.
Mae dyn 20 oed o Gaerllion wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol yn sgil gyrru'n beryglus, ac o fethu ac aros a rhoi gwybod am wrthdrawiad ffordd. Mae'n parhau i fod yn y ddalfa.
Mae dyn 41 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr. Mae'r dyn bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan dystion, ac yn enwedig unrhyw un welodd y Corsa'n cael ei yrru cyn y digwyddiad. Y gred yw bod y car yn cael ei yrru i gyfeiriad Ponthir o ganol tref Caerllion.
Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu drwy gyfrwng eu llinell 101.