Y newyddion diweddaraf am garfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Collins wedi dioddef anaf i'w linyn y gar

Mae amddiffynnwr West Ham, James Collins, wedi tynnu allan o garfan Cymru i wynebu Andorra ar 9 Medi. Yn ôl adroddiadau, mae Collins yn dioddef gydag anaf i'w linyn y gar.

Mae chwaraewr Newcastle United, Paul Dummett, wedi cael ei ychwanegu at y garfan yn ei le.

Enillodd Dummett ei gap cyntaf i Gymru pan ymddangosodd fel eilydd ar yr 83 munud mewn gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r Iseldiroedd yn Amsterdam ar 4 Mehefin 2014.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gareth Bale yn rhan o garfan Cymru sydd yn wynebu Andora ar 9 Medi

Bale ar gael i chwarae

Mae hyfforddwr Cymru, Chris Coleman, wedi cadarnhau y bydd Gareth Bale ar gael i chwarae dros Gymru ar gae artiffisial 3G Andorra, er gwaethaf pryderon gan ei glwb Real Madrid.

Dywedodd rheolwr Real Madrid, Carlo Ancelotti, wrth Coleman fod rhai o'i chwaraewyr wedi cael trafferth ar arwyneb 3G yn y gorffennol.

Ond dywedodd Coleman bydd yr asgellwr 25 oed yn chwarae yng ngêm ragbrofol cyntaf Ewro 2016 ar 9 Medi, cyn belled â bod ei ffitrwydd yn caniatáu hynny.