Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau'n arwyddo cytundeb newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth Cymreig wedi arwyddo cytundeb newydd gan ddiweddu ffrae sydd wedi para am fisoedd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywed yr undeb a Rygbi Rhanbarthol Cymru fod y cytundeb yn werth £60 miliwn ac y bydd yn "darparu perthynas gytundebol bositif" rhyngddyn nhw am y chwe blynedd nesaf.
"Mae'n dynodi cyfnod newydd ar gyfer y gyfer y gêm yng Nghymru ac yn cynnig cytundebau cenedlaethol ar y cyd ar gyfer chwaraewyr allweddol am y tro cyntaf."
Nod y cytundebau yw sicrhau bod rhai o chwaraewyr rhyngwladol mwyaf allweddol Cymru yn aros yng Nghymru gyda'r rhanbarthau.
Newid polisi
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae sawl chwaraewr blaenllaw wedi gadael Cymru i chwarae yn Ffrainc neu Loegr, gydag awgrym nad oedd modd i'r rhanbarthau Cymreig gynnig y cyflogau breision oedd ar gael mewn clybiau eraill.
Fe allai rhai ohonyn nhw golli eu lle yn nhîm Cymru wrth i'r polisi dewis newid i flaenoriaethu chwaraewyr yn y rhanbarthau Cymreig.
Mae'r newid yn golygu na fydd rheiny sy'n chwarae tu fas i Gymru yn gymwys i gael eu dewis onibai bod yr hyfforddwr cenedlaethol yn gwneud eithriadau.
Bydd y polisi newydd yn dod i rym unwaith y mae chwe chwaraewr yn arwyddo cytundebau ar y cyd.
Warren Gatland fydd yn dewis y chwe chwaraewr hynny ac fe fyddan nhw'n cael eu cyflogi gan yr undeb.
Chwe chwaraewr
Dim ond chwe chwaraewr sy' ddim yn gymwys i gynrychioli Gymru fydd pob un o'r rhanbarthau'n cael arwyddo.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Mae'r cytundeb newydd yma yn creu perthynas newydd bositif o fewn rygbi Cymru ac mae wedi ei seilio'n gadarn ar flaenoriaethau Cymru...
"Mae wedi cymryd amser hir i ni gyrraedd diwedd y negodi, ond y rheswm am hynny yw strwythur gymhleth a natur radical y cytundeb sydd yn sicrhau bod dosraniad ariannol yn cyfateb i flaenoriaethau rygbi.
"Mae'r rhanbarthau yn rhan hollbwysig o strwythur rygbi Cymru ac maen nhw wedi datblygu'r gêm yng Nghymru er mwyn cadw'r gêm yn llwyddiannus.
"Nawr mae cytundeb gyda ni fydd yn sicrhau bod y strwythur pyramid sy'n arwain o lawr gwlad yr holl ffordd i'r tîm cenedlaethol yn gryf ac yn addas at ei ddiben."
'Cam positif'
Dywedodd cadeirydd Rygbi Rhanbarthol Cymru (RRC), Nigel Short: "Yn dilyn trafodaethau hir a manwl, mae RRC yn fodlon fod y cytundeb newydd gydag URC yn creu sylfaen deg, flaengar a chredadwy er mwyn amddiffyn a chefnogi'r hyn sydd orau i rygbi Cymru i'r dyfodol - gyda'r prif nod o ddarparu gêm broffesiynol, gynaliadwy a chystadleuol yng Nghymru ...
"Gyda mwy o eglurder a'r sicrwydd sy'n dod gyda'r cytundeb newydd, gall y rhanbarthau nawr gynllunio gyda mwy o ffocws gan weithio'n galed i sicrhau fod eu busnesau annibynnol yn parhau i fod yn gystadleuol.
"Wnaiff pethau ddim newid dros nos - ond mae sicrhau cytundeb newydd mewn partneriaeth yn gam positif ymlaen."
'Gatland yn hanfodol'
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi derbyn clod am y rhan chwaraeodd wrth sicrhau'r cytundeb rhwng URC a'r rhanbarthau.
Dywedodd prif weithredwr RRC, Mark Davies, bod Gatland wedi bod yn "hanfodol" ar gyfer y cytundeb gan roi "llawer o amser" i'r broses.
Yn ôl Davies: "Heb Warren ni fyddan ni wedi llwyddo i gyrraedd y man yma.
"Nawr mae ei berthynas gyda hyfforddwyr y rhanbarthau yn allweddol."