Achos Wojcicki: Rheithgor allan
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn achos dyn oedd yn gyrru bws mini a laddodd feiciwr wedi cael eu hanfon allan i ystyried eu dyfarniad.
Mae Andrzej Wojcicki, 44 oed o'r Coed Duon, yn gwadu achosi marwolaeth Owain Richard James, 30 o Oakdale drwy yrru'n beryglus.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A472 ger Trecelyn ar Orffennaf 22, 2013.
Mae'r erlyniad yn honni fod Mr Wojcicki yn defnyddio'i ffôn symudol ar y pryd ac nad oedd yn edrych i le'r oedd yn mynd.
Dywedodd yr erlynydd Nicholas Jones fod "gyrru bws mini mawr sy'n pwyso dwy dunnell a hanner ar gyflymder o 55 milltir yr awr pan nad ydych chi'n edrych i le'r ydych chi'n mynd yn beryglus iawn".
Ond fe wrthododd yr amddiffyn y gosodiad yma gan ddweud bod dim tystiolaeth i'w gefnogi.
'Drosodd mewn eiliad'
Dywedodd yr Arglwydd Harley ar ran yr amddiffyn: "Mae dyn wedi marw ac mae hynny'n ofnadwy o drist, ond ar gyfer dibenion yr achos yma, mi fyddwn i'n dweud bod hynny'n amherthnasol i raddau helaeth."
Yn ôl yr Arglwydd Harley roedd Mr Wojcicki yn "yrrwr cydwybodol".
Ychwanegodd: "Does dim tystiolaeth o'r ffôn bod Mr Wojcicki yn ei ddefnyddio yn ystod y gwrthdrawiad na chyn hynny."
Dywedodd mai'r hyn a ddigwyddodd oedd fod Mr James wedi seiclo o flaen y bws mini ac nad oedd amser i'r amddiffynnydd stopio.
"Cymrodd lai nag eiliad iddo ef ddod i lwybr fy nghleient," meddai'r Arglwydd Harley.
"Roedd e i gyd drosodd mewn eiliad.
"Y gwir anghyffyrddus yw nad oes yna unrhyw dystiolaeth sy'n mynd yn agos at brofi ei fod yn gyfrifol am y gwrthdrawiad yma. Dyw'r ffaith mai Mr Wojcicki yw'r unig ddyn yma ddim yn profi ei fod e'n euog."
Straeon perthnasol
- 19 Awst 2014