Llysgennad America yn dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Llysgennad America ym Mhrydain, Matthew Barzun, wedi bod yn dysgu Cymraeg er mwyn croesawu'r Arlywydd Obama i Gymru ar gyfer uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd.
Mewn cyfweliad ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Iau dywedodd y Llysgennad: "Mae gennym foment hanesyddol yn dod i fyny ar ddechrau mis Medi.
"Mae'r Arlywydd Obama yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed i ymweld â Chymru, felly er mwyn nodi'r foment hanesyddol yma penderfynais geisio dysgu ychydig o Gymraeg.
"Ar ddechrau'r haf dywedais wrth fy nhîm yma yn y llysgenhadaeth yr hoffwn i wneud hyn a gwirfoddolodd aelod o'm tîm o'r enw Naomi fy hyfforddi.
"Dechreuais gyda 'Dwi'n hoffi coffi' cyn symud ymlaen at 'Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch' - roedd hynny'n anoddach na 'Dwi'n hoffi coffi'."
Mae Mr Barzun yn gobeithio cyfarch yr Arlywydd Obama gyda'r geiriau 'Croeso i Gymru, Arlywydd Obama'.
"Dwi ddim yn gwybod os bydd e'n deall ond mi wna i esbonio iddo," dywedodd.
Mae Naomi Roose-Lloyd yn wreiddiol o'r Rhyl ac mae wedi gweithio fel Cynorthwy-ydd Materion Diwylliannol yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain ers mis Chwefror.
"Cawsom ni sesiwnbrainstorming yn Saesneg i ddechrau yna nes i gyfieithu pethau i Gymraeg ond roedd rhai pethau yn rhy anodd felly nes i ollwng ychydig o'r treiglo a phethau felly a thrio sillafu pethau yn ffonetig," meddai.
"Dwi wedi bod yn dysgu'r llysgennad dros yr haf ac mae wedi gorfod gwneud llawer o waith wythnos yma ond mae wedi rhoi lot o ymdrech i mewn iddo fe ac mae o'n 'neud yn wych."
Dywedodd Ms Roose-Lloyd bod y Llysgennad wedi mwynhau dysgu Cymraeg.
"Mi wnes i recordio fy llais ac mae wedi bod yn gwrnado arno ac wedi gwneud yn dda.
"Mae o'n meddwl ymweld â rhannau eraill o Gymru felly dwi am ddysgu mwy o eiriau fydd yn ddefnyddiol iddo."
Mae yna ffilm fer o'r Llysgennad yn dysgu Cymraeg i'w weld ar wefan You Tube.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2014
- 21 Awst 2014
- 19 Awst 2014