Pum mlynedd dan glo i Wojcicki
- Cyhoeddwyd

Mae Andrzej Wojcicki, 44, wedi cael pum mlynedd o garchar am ei fod yn euog o ladd beiciwr drwy yrru'n beryglus.
Roedd yn gyrru bws mini a darodd yn erbyn Owain Richard James, 30, o Oakdale wrth iddo edrych ar luniau o hen geir rasio ar ei ffôn symudol.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod sylw Wojcicki wedi cael ei dynnu gan y lluniau wrth iddo yrru ar gyflymder o 50 milltir yr awr ar yr A472 ger Trecelyn.
Mi fydd y dyn o'r Coed Duon yn cael ei ddedfrydu am achosi marwolaeth drwy yrru'r beryglus yn hwyrach.
'Dim gobaith'
Dywedodd y Barnwr David Wyn Morgan: "Doeddech chi'n talu fawr o'r sylw i'r ffordd o'ch blaen.
"Roedd yr amodau o ran gwelededd yn ardderchog a doedd fawr ddim traffig - os byddech chi wedi edrych mi fyddech chi'n sicr o fod wedi gweld y beiciwr.
"Yr hyn wnaeth dynnu'ch sylw oedd eich defnydd o ffôn symudol ar gyfer tynnu lluniau o geir.
"Mae defnyddio ffôn symudol i edrych ar luniau tra'n gyrru yr un mor beryglus â gyrru negeseuon testun.
"Roeddech chi'n gyrru bws mini oedd yn pwyso tair tunnell - doedd gan Mr James ddim gobaith."