Chwiorydd yn Priodi: Dathlu Dwbl!
- Cyhoeddwyd
Mae Nia Wyn a Siân Alwen Edwards yn priodi'r penwythnos yma. Dim byd anarferol yn hynny meddech chi - ond mae'r ddwy yn chwiorydd ac wedi penderfynu rhannu eu diwrnod mawr.
Bydd Nia yn priodi Marc a Siân yn priodi Dylan. Mi fuodd y ddwy chwaer o Langernyw, Sir Conwy yn dweud wrth BBC Cymru Fyw am eu penderfyniad i briodi'r un pryd.
Pam wnaethoch chi benderfynu cael un seremoni?
Nia: Roedd hi'n anodd dewis dyddiadau, blwyddyn a lleoliad gwahanol i'r ddwy ohonon ni briodi ar ddyddiau gwahanol. Mi wnes i a Marc ddyweddïo gyntaf ac yna ychydig wythnosau yn ddiweddarach fe wnaeth Siân a Dylan. Roedden ni i gyd eisiau priodi y flwyddyn yma ac yn ei gweld hi'n anodd trefnu dwy briodas yn yr un flwyddyn felly naethon ni edrych fewn i'r syniad o briodas ddwbl.
Siân: Roedden ni'n dwy eisiau priodi yn 2014 felly meddwl y bydda fo'n haws cael priodas ddwbl yn lle trefnu dwy briodas.
Ydych chi wedi bod yn agos erioed?
Nia: I fod yn onest... naddo! Pan oedden i'n ifanc roedden ni reit agos ond fel yr aethon ni'n hŷn roedd ein diddordebau yn wahanol. Roedd Siân yn hoffi darllen ac yn dda efo gwaith ysgol ac roedd yn well gen i fod allan ar y ffarm neu yn chwarae rygbi! Mae pawb yn ein nabod fel dwy chwaer hollol wahanol a phawb wedi arfer gyda ni'n ffraeo dros ryw bethe bach gwirion!
Siân: Pan oedden ni'n blant roedden ni'n ffrindiau, ond yn ein harddegau roedden ni'n ffraeo am ddillad a makeup. 'Da ni heb ffraeo yn ystod cyfnod trefnu'r briodas... eto!
Oes yna anghytuno wedi bod am unrhyw fanylion o'r diwrnod? Beth oedd y cyfaddawdu?
Nia: Yn syndod i bawb ac i minnau, naddo... 'da ni wedi rhoi braw i bawb pa mor dda da' ni wedi cytuno ynglŷn â phob dim mwy neu lai. Mae'r ddwy ohonon ni reit laid back sy'n gwneud penderfyniadau lot yn haws! Ond eto mae yna ddiwrnod i fynd felly w'rach dyna pan fydd yr anghytuno yn digwydd!
Siân: Odd Marc (darpar ŵr Nia) eisiau i'r parti nos ddechra' am 6 a fi am 7, yn y diwedd da ni wedi cytuno ar 6:30.
Ydych chi'n priodi ar yr un pryd neu yn dilyn eich gilydd?
Nia: Un gwasanaeth ond dau gyfamod priodasol - Siân yn gyntaf gan mai hi ydi'r hynaf.
Siân: Yn ôl y gyfraith ma'n rhaid i ni briodi ar wahân.
Beth am y parti iâr? Wnaethoch chi rannu hwnnw hefyd?
Nia: Gawson ni fwy nag un! Dwi'n meddwl bod hi'n saff i ddweud ein bod wedi cael haf bythgofiadwy yn llawn nosweithiau iâr! Dwi'n meddwl bo' fi wedi cael rhyw 3 gwahanol; un yng Nghaer gyda'r teulu ac un i Ibiza gyda 14 o ffrindiau (yr wythnos orau erioed).
Roedd hefyd noson iâr lleol i ni'n dwy lle aethon ni a 35 o ferched eraill o amgylch ychydig o dafarndai Dyffryn Conwy wedi gwisgo fel lleianod! Sôn am hwyl a sôn am bobl yn edrych yn rhyfedd arnon ni!
Roedd pobl o'r Almaen eisiau llun gyda ni a ddim yn deall sut fod lleianod yng Nghymru yn cael yfed gan yn yr Almaen nid yw hyn yn cael ei ganiatáu!!!! Ma'n rhaid bod y gwisgoedd yn realistig!
Siân: Es i Ddulyn ac aeth Nia i Ibiza. Mi ges i hefyd un gwaith yn Llanelwy, un teulu ar gwch yng Nghaer a mi gafon ni un parti plu ar y cyd o amgylch Dyffryn Conwy, pawb wedi gwisgo fel lleianod ac yn dilyn thema Sister Act, fi a Nia yn cael ein gwisgo fyny fel Whoopi Goldberg.
Fydd hi'n briodas fawr gan fod y ddwy ohonoch chi yn priodi r'un pryd?
Nia: Priodas fwy nag yr oedden ni yn ei ddisgwyl - 160 yn y dydd a 350 yn y nos! Fydd hi'n neis i weld pawb i gael dathlu.
Siân: Bydd yn un eitha' mawr ond ma' 'na lot o ddyblygu efo teulu a ffrindiau.
Ydych chi'n mynd ar eich mis mêl gyda'ch gilydd?
Nia: Na ddim mis mêl gyda'n gilydd. Fydda ni angen brêc o'n gilydd ar ôl wythnos brysur o baratoi!
Siân: NA! Mi fasa hynny yn mynd â phethe braidd rhy bell.
Pob dymuniad da i Nia, Siân ac wrth gwrs Marc a Dylan gan griw Cymru Fyw!