Awema: Rheithgor yn parhau i drafod
- Published
Mae rheithgor achos y gŵr sydd wedi ei gyhuddo o dwyllo elusen ar gyfer lleiafrifoedd ethnig yn parhau i drafod eu dyfarniad.
Mae cyn bennaeth Awema Naz Malik, 65 oed, wedi gwadu tri chyhuddiad o dwyll sy'n ymwneud â thaliadau o fwy na £15,000.
Roedd y Barnwr Peter Heywood wedi dweud bod yr achos wedi bod yn un anodd ei grynhoi.
Mae'r erlyniad yn honni bod y diffynnydd wedi defnyddio dwy siec wedi eu harwyddo ac yn werth £12,000 i leihau ei ddyled bersonol.
Mae cyhuddiad arall yn ymwneud â chynllun taliadau yswiriant.
Mae Mr Malik yn mynnu fod yr arian wedi ei ddefnyddio i dalu costau dilys.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Awst 2014
- Published
- 21 Awst 2014