Ymgyrchwyr yn sefydlu gwersyll heddwch cyn uwchgynhadledd Nato

  • Cyhoeddwyd
Gwersyll
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwersyll heddwch wedi cael ei sefydlu ym Mharc Tredegar

Mae ymgyrchwyr, sy'n dweud eu bod yn disgwyl nifer fawr o protestwyr cyn uwchgynhadledd Nato, wedi sefydlu gwersyll heddwch yng Nghasnewydd.

Ym Mharc Tredegar mae'r gwersyll yn cynnwys toiledau, ceginau a chyfleusterau golchi.

Mae disgwyl i'r brotest gyntaf gael ei chynnal ddydd Sadwrn, bum diwrnod cyn yr uwchgynhadledd.

Fe fydd 150 o arweinwyr gwledydd y byd yn yr uwchgynhadledd fydd yn para am ddau ddiwrnod yng Ngwesty'r Celtic Manor.

Dywed yr heddlu y byddan nhw'n defnyddio maes Rodney Parade i reoli'r nifer ychwanegol o blismyn ar ddyletswydd.

Fe fydd 9,500 o blismyn o wahanol luoedd y DU yn helpu Heddlu Gwent.

Fel rhan o'r mesurau diogelwch mae 12 milltir o ffensys diogelwch wedi eu codi yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

Yn ôl Eddie Clarke o fudiad Na i Nato Casnewydd, y cwestiwn mawr yw faint yn union o brotestwyr fydd yn dod i'r ardal.

Trefniadau diogelwch

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Yn ogystal â'r 'fodrwy haearn', bydd yr arweinwyr yn cael eu diogelu gan swyddogion arfog

Mae'n un ymhlith 100 o wirfoddolwyr o fudiadau fel CND sydd wedi sefydlu'r gwersyll ym Mharc Tredegar.

Mae disgwyl i fysus gludo protestwyr o Lundain, Birmingham, Norwich a Newcastle.

Dywed Cyngor Casnewydd eu bod wedi derbyn sicrwydd y bydd y gwersyll yn heddychlon, na fydd yn amharu ar weithgareddau arferol Parc Tredegar.

Yn ôl llefarydd: "Mae'r cyngor yn cydweithio gydag asiantaethau i fonitro'r sefyllfa ac i geisio lleihau effaith y gwersyll ar weithgareddau arferol."

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gwent wedi dweud mai Nato fydd yn talu am y trefniadau diogelwch, gan gynnwys llogi cyfleusterau fel Rodney Parade.