Arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Jake Mark SweeneyFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Jake Sweeney yn yr ysbyty

Mae dyn 23 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddyn wnaeth ddioddef ymosodiad farw yn yr ysbyty.

Roedd Jake Mark Sweeney, 26, o Gaerffili yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn ymosodiad tu allan i dafarn yr Irish Tymes ar Station Terrace yn y dref yn oriau man y bore ddydd Sul.

Fe ddioddefodd anafiadau i'w ben yn yr ymosodiad a bu farw ddydd Iau.

Roedd y dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn wreiddiol a'i rhyddhau ar fechnïaeth, ond cafodd ei arestio eto ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Mr Sweeney.

Mae dau ddyn arall, y ddau yn 21 mlwydd oed, wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar amheuaeth o affräe.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Roger Fortey, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi arwain at farwolaeth dyn ifanc. Rydym yn cydymdeimlo â'r teulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd yma.

"Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yng nghyffiniau tafarn yr Irish Tymes rhwng 1 a 2 y bore ddydd Sul Awst 24, allai fod â gwybodaeth fyddai o fudd i ni.

"Os gwelwch yn dda cysylltwch â ni drwy ffonio 101."