BBC Cymru Fyw

Gwersi hanes

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Published

Mae'n ddydd Gwener. Beth am gael cwis bach - pryd ysgrifennwyd y geiriau yma a chan bwy?

"The whole island... must be divided into an equal number of districts; each district containing an equal number of inhabitants. All men, at the age of eighteen, who are not vagabonds or in the hands of justice, have a right to vote; because they contribute to the support of the state"

Mae'r ffaith nad yw'r awdur yn ystyried hawl merched i bleidleisio yn rhoi tipyn o gliw i chi ein bod yn ôl yn y gorffennol pell - serch hynny pan ysgrifennwyd y geiriau yna yn 1782 roeddynt yn hynod o radicalaidd a dylanwadol.

David Williams, athronydd gwleidyddol o Gaerffili, oedd awdur y geiriau ac maen nhw'n ymddangos yn ei lyfr "Letters on Political Liberty" - y llyfr, gyda llaw, lle mae'r term 'political science' yn ymddangos am y tro cyntaf.

Fe wnaeth haneswyr Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg eu gorau glas i anwybyddu Williams gan ei fod yn cael ei ystyried yn gableddus gan Galfiniaid surbwch y cyfnod. Doedd y cyhuddiad ddim yn ddi-sail chwaith. Wedi'r cyfan, roedd Williams yn Ddeist gan fynnu bod gwaith yr athronwyr clasurol cyn bwysiced a'r Beibl o safbwynt deall cyflwr dyn. Ystyrir ef yn un o dadau anffyddiaeth.

Mae'n rhyfedd nad yw David Williams yn ffigwr fwy cyfarwydd yn ein cyfnod ni. Roedd pobl fel Benjamin Franklin, Samuel Johnson a David Garrick ymhlith ei gyfeillion a chafodd ei wahodd i Baris gan Lywodraeth Ffrainc ar ôl chwyldro 1789. Fe'i urddwyd yn ddinesydd er anrhydedd yno i gydnabod pwysigrwydd ei waith i ddatblygiadau gwleidyddol y wlad honno.

Mae'n drawiadol mai dim ond yn 1969 y cafodd yr oedran bleidleisio ei gostwng i ddeunaw a dyw galwad David Williams am etholaethau o'r unfaint dal ddim wedi ei gwireddu.

Mae'r ddeddfwriaeth i wneud hynny ar y llyfr statud yn barod wrth gwrs. Fe ohiriwyd gwireddu'r newid wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol bwdu / gwneud safiad egwyddorol fel ymateb i'r methiant i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi. Mae'n ddigon posib y bydd y cweryl bach yna yn ddigon i roi allweddu rhif deg yn nwylo Ed Miliband.

Os ydy hynny'n digwydd un o'r penderfyniadau fydd yn rhaid i Lafur ei wneud yw beth ar y ddaear i wneud ynghylch ad-drefnu'r etholaethau. O wneud dim fe fyddai hynny'n digwydd yn awtomatig cyn yr etholiad dilynol - cam a fyddai mwy na thebyg yn costio dwsinau o seddi i Lafur. Ar y llaw arall fe fyddai deddfu i gadarnhau'r fantais Lafur yn y system bresennol yn ymddangos yn sinigaidd a dan din.

Beth i wneud felly? Dilyn rhyw fath o lwybr canol yw'r ateb amlwg. Fe fyddai hynny'n golygu y byddai Cymru'n colli rhiw faint o ddylanwad yn San Steffan ond yn osgoi'r fwyell fyddai'n gostwng pe bai rheol haearnaidd David Williams yn cael ei gwireddu.

Cofiwch, roedd gan yr hen Williams ddigon o le i gwyno. Yn ôl yn ei ddyddiau ef 27 o Aelodau seneddol oedd gan Gymru. Roedd gan Gernyw 48!