Pobl ifanc yn trafod dyfodol y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd
David Melding
Disgrifiad o’r llun,
David Melding: 'yn edrych ymlaen at y syniadau arloesol'

Wrth i refferendwm yr Alban nesáu mae pobl ifanc gwledydd Prydain yn trafod dyfodol y Deyrnas Unedig ym Mae Caerdydd ddydd Llun.

Cynrychiolwyr rhwng 18 a 30 oed o elusennau, pleidiau gwleidyddol a mudiadau eraill fydd yn mynd i Gonfensiwn Cyfansoddiadol Pobl Ifanc.

Dywedodd Dirprwy Lefarydd y Cynulliad, David Melding, y byddai rôl pobl ifanc yn allweddol.

"Dwi'n edrych ymlaen at eu syniadau arloesol," meddai.

Yn y gynhadledd bydd tair sesiwn yn trafod lles cymdeithasol, cyllid a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

Trefnwyr y digwyddiad yw Ein Dyfodol, rhan o brosiect Undeb yn Newid, a'r Cynulliad.

'Cyfrannu at drafodaeth'

Dywedodd Cadeirydd Ein Dyfodol Matt Francis: "Beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm yn yr Alban, mae'r drafodaeth am gydberthynas gwledydd Prydain yn y dyfodol newydd ddechrau.

"Mae angen clywed llais pobl ifanc yn glir a'n gobaith ni yw y bydd y confensiwn yn cyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig."

Bydd y syniadau fydd yn codi yn ystod y gynhadledd yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad erbyn yr hydref.

Dywedodd Mr Melding: "Bydd penderfyniad pobl yr Alban yn effeithio'n fawr ar weddill gwledydd Prydain.

"Yn y pen draw ein pobl ifanc fydd yn gorfod ymateb i ganlyniadau'r penderfyniadau hynny.

"Dwi'n falch i groesawu pobl ifanc o Gymru a thu hwnt er mwyn trafod sefyllfa'r Deyrnas Unedig wedi'r penderfyniad ac, yn benodol, rôl Cymru yn y drafodaeth honno."