Y chwilio'n parhau am Isaac Nash, 12 oed

  • Cyhoeddwyd
Isaac Nash
Disgrifiad o’r llun,
Mae Isaac Nash yn 12 oed ac o ardal Huddersfield

Mae Heddlu'r Gogledd wedi enwi'r bachgen 12 oed sydd ar goll ers iddo gael ei ysgubo gan y llanw i'r môr ger Aberffraw ar Ynys Môn bnawn ddoe.

Roedd Isaac Nash, sy'n dod o ardal Huddersfield, ar wyliau gyda'r teulu ar y pryd.

Roedd wedi bod yn chwarae yn y môr gyda bachgen arall pan aethon nhw i drafferthion ac fe geisiodd rhai o aelodau'r teulu eu hachub.

Mae tair o fadau achub gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio amdano ers 7.30 bore Sadwrn, ond wedi rhoi'r gorau iddi tra bod llanw uchel. Fe fyddan nhw'n ailddechrau am 18.30.

Ffynhonnell y llun, @dilgriff
Disgrifiad o’r llun,
Hofrennydd yn cynorthwyo yn y chwilio am y bachgen

Mae swyddogion hefyd yn archwilio glannau'r arfordir ynghŷd ag aelodau'r teulu a gwirfoddolwyr lleol.

Mae hofrennydd heddlu'r Gogledd yn helpu gydag archwiliad timau Gwylwyr y Glannau o Rosneigr, Cemaes a Bangor.

Fe fydd tîm arbenigol, tanddwr, yn ymuno yn ystod oriau llanw uchel.

Mynd i drafferthion

Dydd Gwener, cafodd criwiau badau achub yr RNLI eu galw o Borthdinllaen, Caergybi a Bae Trearddur ar ôl adroddiadau fod dyn a bachgen 12 oed wedi eu hysgubo i'r môr ger Aberffraw tua 12.30.

Llwyddodd y dyn i gyrraedd y lan.

Roedd timau gwylwyr y glannau o Rosneigr, Moelfre, Bangor a Chaergybi yn helpu gyda'r gwaith chwilio yn ogystal â hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali a hofrennydd yr heddlu.

Wedi chwilio'r môr a'r arfordir, bu'n rhaid i'r timau achub, y badau a'r hofrennyddion roi'r gorau i'r chwilio nos Wener am y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod yr amodau yn rhai anodd iawn gan bod y môr mor stormus.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y môr yn stormus iawn nos Wener a'r amodau yn anodd iawn

Yn ôl y llefarydd, roedd y bachgen 12 oed a bachgen 5 oed, yn padlo pan aeth y ddau i drafferthion.

Aeth tad a thaid i'w hachub. Cafodd y bachgen pump oed ei achub ond cafodd y bachgen arall ei ysgubo i'r môr.

Dywedodd Dave Brewer, rheolwr gwylwyr y glannau Môn, ei fod o'n deall fod tad i un o'r bechgyn wedi llwyddo i afael yn ei fab, tra bod y taid wedi ceisio gafael yn y bachgen arall.

"Fe aeth y taid i geisio achub y bachgen arall ac fe wnaeth ton ysgubo drosto. Fe lwyddodd i afael ar y creigiau ond collodd ei afael ar y bachgen."

Cafodd bad achub RNLI Bae Trearddur ei lansio o fewn tri munud i dderbyn galwad brys, gyda bad achub pob tywydd Porthdinllaen yn cael ei lansio yn fuan wedyn.

Credir bod y teulu ar wyliau yn yr ardal ac yn dod o Ogledd Lloegr.