Gem gyntaf i Warburton

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Sam Warburton

Fe wnaeth capten Cymru Sam Warburton chwarae ei gem gyntaf y tymor hwn wrth i'r Gleision wynebu Caerlyr mewn gem gyfeillgar.

Doedd y blaenasgellwr heb chwarae oherwydd ffrae rhwng y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru.

Fe chwaraeodd am 50 munud yn Welford Road, ond colli bu hanes y Gleison o 21-17.

Sgoriodd Lloyd Williams gais i'r Gleision, gyda Rhys Patchell yn ychwanegu tair cic gosb a gol adlam.

Fe wnaeth y Dreigiau guro Northampton 27-25 ar barc Eugene Cross yng Nglyn Ebwy.

Sgoriodd Tom Prydie gais a throsgais, ac roedd yna gais yr un i Aled Brew a Cory Hill.