Ffyrdd i gau yng Nghasnewydd oherwydd protest
- Cyhoeddwyd

Fe fydd nifer o ffyrdd Casnewydd ar gau ddydd Sadwrn pan fydd gorymdaith yn cael ei chynnal yn y ddinas i wrthwynebu'r ffaith bod uwchgynhadledd NATO yn digwydd yno yr wythnos nesaf.
Mae Cyngor Casnewydd yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd yr orymdaith yn amharu cryn dipyn ar ganol y ddinas ac yn cynghori pobl i osgoi'r ardal.
Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod wedi bod yn trafod gyda'r grwpiau ymgyrchu ond dydy hi ddim yn glir eto faint yn union o brotestwyr fydd yn cymryd rhan.
Mi fydd dros 150 o benaethiaid gwlad a phrifweinidogion yn bresennol yn y gynhadledd sy'n cael ei chynnal yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Iau a Gwener nesaf.
Mae gwersyll i brotestwyr eisoes wedi cael ei sefydlu ym Mharc Tredegar ac mae disgwyl i fwy o ymgyrchwyr gyrraedd yn y dyddiau nesaf.
Mae swyddogion y Cyngor wedi dweud y bydd nifer o ffyrdd yn cael eu heffeithio wrth i'r orymdaith ddechrau o faes parcio Llys y Goron Casnewydd am ddau o'r gloch.
Mae grwpiau ymgyrchu wedi trefnu bysus i gludo protestwyr o Lundain, Birmingham, Norwich a Newcastle.
Mae mudiad heddwch CND wedi dweud eu bod yn disgwyl i orymdaith ddydd Sadwrn fod yn "brotest sylweddol".