Tân mewn tŷ yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y Gwasanaeth Tân eu hanfon i'r tŷ yng Ngwersyllt am 7.30 fore Sadwrn.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cadarnhau bod dyn yn ei 50au a dynes yn ei 40au wedi cael eu hanfon i Ysbyty Wrecsam Maelor yn dioddef o effeithiau anadlu mwg, wedi tân mewn tŷ yn yr ardal.
Fe gafodd tair brigad dân o Wasanaeth Tân y Gogledd eu hanfon i'r tŷ ar Benrhyn Drive, Gwersyllt am 7.30 fore Sadwrn.
Credir bod achos y tân yn un damweiniol.